Telerau ac Amodau
Mae defnyddio'r wefan hon yn ddibynnol ar y telerau ac amodau canlynol. Drwy ymweld â'n gwefan, mae defnyddwyr ('chi') yn derbyn ein telerau a'n hamodau. Mae'r safle yn eiddo i Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) a Bwrdd yr Iaith Gymraeg (BYIG). I ddibenion y telerau ac amodau hyn mae 'ni' yn golygu Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y cyd. Gallwn ddiwygio'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Gwiriwch yn rheolaidd. Bydd parhau i ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i newid gael ei wneud yn gyfystyr â derbyn y newid. Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
Defnyddio'r Wefan
Mae'r safle hwn yn cael ei gynnal er mwyn i chi gael ei ddefnyddio ac edrych arno. Defnyddiwch y safle hwn i ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu nac yn tresmasu ar hawliau, neu'n cyfyngu ar, neu'n rhwystro defnydd a mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd parti.
Ymwadiad
Mae gwefan Dan Y Cownter a'r cynnwys y gellir ei islwytho yn cael eu darparu 'fel y maent', heb unrhyw gynrychiolaeth nac ardystiad a heb warant o unrhyw fath pa un a ydynt yn ddatganedig neu'n ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau yn y deunydd a geir ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu'r gweinydd sy'n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu'n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, neu unrhyw golled neu ddifrod a ddaw o ddefnyddio neu o golli defnydd o ddata neu elw, sy'n deillio o, neu sy'n gysylltiedig â defnyddio'r safle. Rydych yn derbyn yr holl risg sy'n codi o ddefnyddio'r safle ac/neu islwytho ffeiliau cerddoriaeth neu eu defnyddio. Ni fyddwn ni neu ein drwyddedwyr nac unrhyw un o'i swyddogion, cyfarwyddwyr neu weithwyr dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw ddifrod ôl-ddilynol, damweiniol, uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig, cosbol, neu unrhyw ddifrod arall (gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod yn deillio o golli elw busnes, ymyriad â busnes, colli gwybodaeth busnes, neu golled ariannol arall) sy'n deillio o'r cytundeb hwn neu o ddefnyddio neu o fethu â defnyddio unrhyw islwythiadau digidol, drwy oediad neu anallu i ddefnyddio'r safle neu wasanaethau cysylltiedig, drwy ddarparu neu fethu â darparu cerddoriaeth neu wasanaethau, neu am unrhyw wybodaeth, meddalwedd, cynhyrchion, gwasanaethau a graffeg cysylltiedig a gafwyd drwy'r safle, neu fel arall sy'n deillio o ddefnyddio'r safle pa un ai yw'n seiliedig ar gytundeb, camwedd, esgeulustod, atebolrwydd caeth neu fel arall hyd yn oes os ydym wedi ei hysbysu ynghylch posibilrwydd difrod o'r fath. Os bydd unrhyw gyfyngiad ar atebolrwydd yn methu yn ei ddiben hanfodol, bydd yr atebolrwydd mwyaf yr ydym yn atebol amdano yn gyfyngedig i unrhyw symiau a delir gan y defnyddiwr.
Cysylltiadau â Gwefannau Allanol
Bydd rhai cysylltiadau yn arwain at wefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys safleoedd cysylltiedig o'r fath. Ni ddylid ystyried rhestru a chysylltu fel cymeradwyaeth o unrhyw fath ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r cynnwys. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy'r adeg ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
Deddf Diogelu Data
Dan y Ddeddf Diogelu Data, mae'n gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth yr
ydym yn ei chasglu gennych. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti.
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir gennym i gysylltu â chi, ond yn unig os ydych yn penderfynu
derbyn cyfathrebiadau o'r fath. Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu ystadegau
cyfunol ynghylch y bobl sy'n ymweld â'r safle ac/neu sy'n islwytho'r albwm. Ni ellir defnyddio'r ystadegau
i adnabod defnyddwyr unigol.
Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth gan rai sy'n ymweld â'r wefan hon.
1) Gwybodaeth ydych chi'n ei throsglwyddo inni'n uniongyrchol
Cyn ichi islwytho'r albwm gofynnir ichi roi rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi eich hun. Gellir
defnyddio hyn, gyda'i gilydd, i asesu prosiect Dan Y Cownter 3, cynllunio prosiectau i'r dyfodol,
dylanwadu ar bolisi iaith Gymraeg ac unrhyw ddefnydd arall tebyg gan Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig
neu Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
2) Gwybodaeth a gesglir yn awtomatig
i) Cwcis
Darnau o ddata yw cwcis sy'n cael eu creu pan fyddwch yn ymweld â gwefan, ac sy'n cael eu storio ar
eich cyfrifiadur. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, ac ni ellir eu
defnyddio i adnabod defnyddwyr unigol. Gallwch osod eich porwr fel na fydd yn derbyn cwcis ond gall
hyn greu problemau wrth ddefnyddio'r wefan.
ii) Logiau gwe-weinydd
Ffeil log (neu amryw o ffeiliau) yw 'log weinydd' sy'n cael ei chreu yn awtomatig a'i chynnal gan weinydd
o weithgaredd a gyflawnwyd ganddo.. e.e. rhestr o geisiadau am dudalennau y gwnaeth ymateb iddynt.
Hawlfraint
Mae pob cerddoriaeth, testun, delwedd, graffeg, rhyngwyneb defnyddiwr, ffotograff, nod masnach, logo, a gwaith celf (y "Cynnwys" gyda'i gilydd), gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gynllun, detholiad, trefniant, a chyd-drefniant Cynnwys o'r fath ar y Safle yn eiddo neu wedi ei drwyddedu gan neu i Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a / neu Bwrdd Yr Iaith Gymraeg ac wedi ei ddiogelu gan ddeddfau hawlfraint, diwyg masnach, a deddfau nodau masnach, ac amryw o ddeddfau hawliau eiddo deallusol eraill. Oni cheir datganiad pendant yn y Telerau ac Amodau hyn neu oni chaniateir gan gyfraith leol, ni ellir atgynhyrchu, recordio, darlledu, dosbarthu, llwytho i fyny, postio, newid i wneud gweithiau newydd, perfformio, digitaleiddio, neu drosglwyddo unrhyw ran o'r Safle na dim o'r Cynnwys mewn unrhyw ffordd i unrhyw gyfrifiadur, gwefan neu gyfrwng arall neu ar gyfer unrhyw ddiben, heb ganiatâd ysgrifenedig ffurfiol blaenorol.
Trwydded Islwytho Cerddoriaeth
Gall defnyddwyr chwarae eu hislwythiadau nifer anghyfyngedig o weithiau ar y cyfrifiadur personol yr islwythwyd iddo neu unrhyw ddyfais arall eilaidd neu gludadwy. Gall y defnyddiwr "losgi" islwythiadau digidol o'r cyfrifiadur cynradd i wneud nifer anghyfyngedig o gopïau parhaol mewn fformat anghywasgedig ar gyfer ddefnydd personol yn unig. Mae gennych drwydded na ellir ei throsglwyddo, na ellir ei hisdrwyddedu i ddefnyddio'r Islwythiadau Digidol yn unig ar gyfer defnydd personol. Ni allwch chwarae ac yna ail-ddigideiddio unrhyw Weithiau, na llwytho'r Gweithiau hynny i fyny i'r Rhyngrwyd. Ni allwch greu unrhyw "weithiau deilliadol" drwy newid unrhyw un o'r Cynnwys. Ni allwch ddefnyddio'r Gweithiau ar y cyd ag unrhyw gynnwys trydydd parti arall (e.e., i ddarparu sain i ffilm). Ni allwch ddefnyddio unrhyw Gynnwys o'r fath i ddibenion masnachol (gan gynnwys gwerthu Islwythiadau Digidol wedi eu bwndelu a drosglwyddwyd ar Ddyfeisiadau Electronig Cymeradwy). Ni allwch drosglwyddo na dosbarthu Islwythiadau Digidol ac eithrio fel y nodir uchod. Ni chaniateir unrhyw ddefnyddiau eraill ac eithrio fel y nodir yn ffurfiol fel defnydd awdurdodedig yn y telerau ac amodau hyn. Rydych yn cytuno ymhellach i ddigolledu, gwarchod, amddiffyn, oherwydd eich methiant i gydymffurfio â'r adran hon.


