Welcome to Dan Y Cownter 3

contemporary Welsh language tracks compiled by Dan Y Cownter 3

English | Cymraeg
GWYLIAU CERDDOROL | GWEFANNAU | LABEL RECORDIAU | LLEOLIADAU / DIGWYDDIADAU RHEOLAIDD
CYLCHGRONNAU & FFANSINS | CYFRYNGAU | GWYBODAETH YCHWANEGOL

GWYLIAU CERDDOROL

GIGS CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG - EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

www.cymdeithas.com / adloniant@cymdeithas.com

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros 30 mlynedd. Dros y blynyddoedd mae'r bandiau Cymraeg gorau wedi perfformio yn y gigs hyn yn ystod un o wythnosau pwysicaf y diwylliant Cymreig, ond efallai yn bwysicach, mae'r gigs wedi rhoi'r cyfle i nifer fawr o fandiau ifanc Cymru i chwarae o flaen cynulleidfa ehangach.

GIG MAWR BONT

www.pafiliwnbont.co.uk

Dau ddiwrnod o hwyl gyda'r bandiau gorau Cymraeg ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ym mis Mehefin.

GŴYL CAERNARFON

www.caernarfononline.co.uk/caernarfonfestival / caernarfon.festival@btconnect.com

Cyfres o ddigwyddiadau byw mewn tafarndai a chlybiau o gwmpas Tref Caernarfon - Diwedd Gorffennaf bob blwyddyn.

GŴYL CAR GWYLLT

www.myspace.com/gwylcargwyllt

Gwyl Gerddoriaeth gyda diddaniant ymylol mewn celfyddyadau a gynhelir ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd yn ystod yr wythnosau 1af o mis Mehefin. Mae'r Wyl yn cael ei chynal mewn sawl ffurf o gig a'r Lwyfanau awyr agored i'r ras 2.5 milltir o gigs tafrandai! Roedd y 'Car Gwyllt' yn declyn a ddefnyddiwyd gan chwarelwyr i wibio i lawr llethrau'r chwareli - yn debyg i sglefrfyrddio ac yn beryglus tu hwnt.

GŴYL GARDD GOLL

www.myspace.com/gwylgarddgoll

Mae Gwyl Gardd Goll yn cael ei gynnal mewn amffitheatr ym Mharc Glynllifon ar y 27 o Orffenhaf, ar ôl llwyddiant ysgol yn y flwyddyn gyntaf, mae'n addo i fod yn well yn 2008. Gydag artistiaid fel Euros Childs, Derwyddon, Y Rei a Gwyneth Glyn wedi cadarnhau i chwarae, mi fydd hi'n yn wyl gwerth chweil. Mae'n wyl unigryw mewn lle unigryw.

SŴN

http://www.swnfest.com"> www.swnfest.com

Gwyl gerddoriaeth newydd wedi ei curiadu gan Huw Stephens o Radio Cymru a Radio1 sy'n digwydd mewn amryw o leoliadau dros benwythnos hir ar draws Caerdydd bob Mis Tachwedd. Mae Swn yn rhoi llwyfan i fandiau o bob cwr o'r byd yn ogystal â'r bandiau gorau Cymraeg

GWYL TÂN TANAT

MorrisBrynaber@hotmail.com / 01691 791281

Mae Gwyl Tân Tanat yn cael ei chynnal ym Mhenybont Fawr, yn Nyffryn Tanat, gogledd Powys ym Mehefin. Bwriad y digwyddiad yw codi proffil diwylliant Cymraeg a Chymreig yng ngogledd Maldwyn. Mi fydd yr wyl yn cynnwys grwpiau pop a roc a DJs lleol a chenedlaethol yn ogystal â sesiynau barddoniaeth ac eisteddfod dafarn.

GWYL Y CENHEDLOEDD BYCHAIN

www.smallnations.co.uk / smallnations@cilycwm.com / 07904 353460

Mae Gwyl y Cenhedloedd Bychain yn cael ei chynnal yn Nghil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin yn ystod mis Gorffennaf bob blwyddyn i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth o genhedloedd bychain eraill.

LLANAST LLANRWST

www.llanastllanrwst.org / post@llanastllanrwst.org / 01492 642357

Gwyl yn Llanrwst, Conwy, sy'n gymysgedd unigryw o wahanol ddigwyddiadau, sy'n anelu cyfuno hen a'r cyfoes. Dyma fan geni Beirdd v Rapwyr. Mae'r holl wyl yn dod i ben gyda Sesiynau Llanast lle mae cerddorion y SRG a thu hwnt yn cymysgu yn nhafarndai Llanrwst efo i gyd-chwarae alawon cyfoes a traddodiadol yng nghyd a rhai gilydd.

MAES B

www.maesb.com / post@maesb.com

Maes B yw canolfan swyddogol gigs Cymraeg wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, gwyl ddiwylliannol a chelfyddydol bwysicaf Cymru a'r Gymraeg, gyda pherfformiadau gan rai o grwpiau ac artistiaid mwyaf y Sîn Roc Gymraeg. Dros y blynyddoedd mae Maes B wedi helpu meithrin y grwpiau newydd gorau sy'n canu'n Gymraeg tra'n denu cynulleidfa o dros 2,500.

PENTRE IEUENCTID - SIOE FRENHINOL CYMRU

www.yfc-wales.org.uk

Mae'r Pentref Ieuenctid yn gwyl cerddoriaeth awyr agored sy'n rhedeg am 4 noson yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair ym Muallt yn ystod mis Gorffennaf yn flynyddol. Gweler amryw o fandiau Cymreig a Saesneg yn perfformio i gynulleidfa o 5,000+. Cyfleusterau gwersylla a maes carafannau ar gael hefyd!

SESIWN FAWR DOLGELLAU

www.sesiwnfawr.com / 08712301314

Ardal brydferth Dolgellau, Gwynedd, yw cefndir unigryw y Sesiwn Fawr a gynhelir ar y Marian yng nghanol y dref ac sy'n denu cynulleidfa o tua 10,000 dros ddau ddiwrnod yng nghanol mis Gorffennaf. Mae pum prif lwyfan o fewn maes yr wyl sy'n cynnig arlwy anhygoel o gerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth y byd.

TYRFE TAWE

www.tyrfe-tawe.com / chris@tyrfe-tawe.com

Sefydlwyd Tyrfa Tawe yn 2004 i drefnu digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg i drigolion Abertawe a thu hwnt. Yn ystod yr Wyl ym mis Hydref mae gigs yn cael eu cynnal mewn canolfannau ar draws y ddinas gyda mynediad am ddim. Mae cantorion a bandiau mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg yn chwarae pob blwyddyn.

Wa Bala

www.wabala.co.uk / gerbach@wabala.co.uk / 07879227819

Tri diwrnod o gigs gan rhai o fandiau orau newydd ac enwog Cymru yn y Bala.

GWEFANNAU

BANDIT

www.bandit247.com

Yn cyd-redeg â'r gyfres 'Bandit' ar S4C, Bandit247.com yw'r unig le ar y we i weld perfformiadau byw gan fandiau mwya' blaenllaw Cymru. Yn ogystal â rhoi ail-gyfle i wylio bandiau a gigs y gyfres gyfredol a chyfresi blaenorol mae'r wefan hefyd yn cynnig gwasanaeth newyddion, rhestr gigs a pherfformiadau o stiwdio Bandit sy'n unigryw i'r wefan.

C2

www.bbc.co.uk/c2

Ar y wefan mae cyfle i ddarllen am y newyddion diweddara o'r sin roc, cyfle i ail wrando ar holl sesiynau C2, yn ogystal â'r adolygiadau o'r cryno ddisgiau diweddara'. Hefyd mi allwch chi lawrlwytho Pod C2, sy'n cynnwys uchafbwyntiau o'r wythnos flaenorol. Bob dydd Mawrth, bydd 10 uchaf siart C2 yn cael ei ddatgelu.

CURIAD

www.curiad.org / gwybodaeth@curiad.org

Gwefan annibynnol am gerddoriaeth yng Nghymru dan ofal cyfranwyr gwirfoddol. Mae'r safle wedi hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar y we ers 1995 a nawr yn ei ddegfed flwyddyn mae wedi ail-lansio gyda dyddiadur gigs, ynghyd â gwybodaeth gyflawn am artistiaid hen a newydd, lleoliadau gigs, labeli recordiau a mwy.

DISAUDIO

www.disaudio.com

Safle sy'n cynnig lawrlwythiadau o Gymru - gan lawer o labeli gwahanol, gyda llawer o wahanol arddulliau.

FFACTOR LAWRLWYTHO

www.downloadfactor.com

Yn cynnig gwasanaeth i artistiaid Cymraeg allu gwerthu eu traciau fel lawrlwythiadau MP3.

MAES-E.COM

www.maes-e.com / hedd@maes-e.com

Gwefan drafod Cymraeg i bobl 16+, sy'n cynnwys seiadau bywiog iawn am bopeth sy'n digwydd yn y Sîn, hysbysebion gigs a thrafodaeth. Mae cyfle hefyd i drafod pethau pwysig eraill megis chwaraeon, ffasiwn a gwleidyddiaeth (ddim o reidrwydd yn y drefn honno).

RADIO AMGEN

www.radioamgen.com / info@radioamgen.com

Gorsaf radio dielw ar y rhyngrwyd ydi Radio Amgen a lansiwyd yn 2001 gan DJ Lambchop fel llwyfan ar gyfer cerddoriaeth amgen ac arbrofol yng Nghymru. Gellir tanysgrifio i bodlediad wythnosol.

SEBON

www.sebon.co.uk / siop@sebon.co.uk

Siop ar-lein yn gwerthu cerddoriaeth o Gymru yw Sebon. Mae'r wefan bellach yn cynnwys yn bell dros 400 o deitlau gwahanol i'w prynu a gall dderbyn archebion o unrhyw le yn y byd.

SESH TV

www.sesh.tv

Mae Sesh yn gymuned fideo Gymraeg ar-lein newydd. Y lle i wylio a llwytho eich clipiau, ffilmiau a fideos cerddoriaeth. Bydd aelodau o gymuned Sesh yn gwneud sylwadau ar eich gwaith ac fe fydd y goreuon yn cael eu datblygu gan gynhyrchwyr profiadol.

S.N.O.G.

www.snogonline.co.uk

Gwefan manylion digwyddiadau, gan gynnwys gigs, yng ngogledd Cymru.

LLEOLIADAU / DIGWYDDIADAU RHEOLAIDD.

BYD MAWR

www.bydmawr.org

Mae Byd Mawr Crwn yn gwmni di elw sydd yn ymdrechu i hybu dealltwriaeth ddiwylliannol a chodi ymwybyddiaeth ryngwladol trwy gerdd, celf a dawns o wahanol wledydd. Maent wedi bod yn cynnal nosweithiau DJ a chlwb yn ardal Bangor ers sawl blwyddyn, ac maent yn arbenigo mewn gigs er budd achosion da.

CARDICWSTIG

cered@ceredigion.gov.uk / 01545 572350

Bwriad Cardicwstig yw i ddatblygu cylchdaith adloniant ysgafn Gymraeg yng Ngheredigion. Y syniad yw i gynnal nosweithiau amrywiol gan gyfuno cerddoriaeth acwstig gydag adloniant mwy amgen fel barddoniaeth, 'standup' neu ffilmiau byr ac i gynnal y nosweithiau mewn ardaloedd mwy gwledig.

CELL

www.myspace.com/cell-blaena / 01766 832001

Wedi ei leoli mewn hen orsaf heddlu a llys ynadon ym Mlaenau Ffestiniog, mae'r Cell yn cynnwys 5 stafell ymarfer, stafell cerddoriaeth technoleg Apple Mac's, stiwdio broffesiynol, a lleoliad gigs - Y Cwrt.

CLWB IFOR BACH, CAERDYDD

www.clwbiforbach.co.uk / post@clwb.net / 02920 232199

Mae Clwb Ifor Bach yn falch o roi llwyfan i fandiau Cymraeg ei hiaith, ac wedi bod yn gwneud hynny ers 25 mlynedd. Mae nosweithiau bandiau yn cyflwyno artistiaid Cymraeg i'r Gymdeithas Gymraeg yn y brifddinas, ac mae'r Clwb yn ganolfan adloniant i Gymru gyfan ar ddiwrnodau gemau chwaraeon rhyngwladol yng Nghaerdydd. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr e-bost drwy ymweld â'r wefan.

COFI ROC, CAERNARFON

www.cofiroc.com / post@cofiroc.com / 01286673100

Mae grwpiau byw yn perfformio yn rheolaidd yn Cofi Roc lle ceir awyrgylch unigryw a lluniau o artistiaid Cymreig a murlun arbennig gan Wil Jones.

DEFFRO'R DEYRNAS

myspace.com/rebowndercymru / iestyn54@hotmail.com

Mae criw Deffro'r Deyrnas yn trefnu cylchdaith o gigs i fandiau Cymraeg bob tri mis. Cadwch lygaid am fanylion pellach. Maent wastad yn chwilio am fandiau newydd i ymuno ô'r daith.

GALERI CAERNARFON

www.galericaernarfon.com / 01286 678140

Mae Galeri Caernarfon yn ganolfan amlbwrpas sydd yn cynnal sioeau theatr, cyngherddau, gigs, ac sy'n cynnwys sinema. Mae yma hefyd ddwy stiwdio ddawns/gofod ymarfer, yn ogystal â nifer o ystafelloedd pwrpasol i fandiau ymarfer.

GIGS CYMDEITHAS YR IAITH Y 3 EOG, CAERFYRDDIN

www.cymdeithas.org

Gigs misol yng ngwesty'r 3 Eog, Caerfyrddin sy'n cael eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg er mwyn hyrwyddo artistiaid lleol a chenedlaethol.

GYG - TY TAWE - ABERTAWE

www.gygabertawe.org / swyddfa@menterabertawe.org / 01792 460906

Gigs misol yw GYG, fel arfer ar nos Wener olaf pob mis. Bandiau Cymraeg yn unig sy'n ymddangos gan chwarae pob math o gerddoriaeth.

MAES B - AR DAITH

www.maesb.com / post@maesb.com

Mae Maes B, prif wyl cerddoriaeth Gymraeg Cymru, hefyd yn hyrwyddo gigs rheolaidd ledled Cymru. Bwriad y gigs yw rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg trwy gydol y flwyddyn, o'r prif artistiaid i fandiau newydd ifanc. Ewch i'r wefan i weld rhestr o'r digwyddiadau diweddaraf.

MILKWOOD JAM

www.milkwoodjam.com / gigs@milkwoodjam.com / 01792 477 577

Lleoliad cerddoriaeth newydd ynghanol Abertawe - gyda gigiau Cymraeg a nosweithiau mhic agored.

PAFILIWN PONTRHYDYFENDIGAID

www.pafiliwnbont.co.uk / info@pafiliwnbont.co.uk / 01974 831635

Mae Pafiliwn Bont yn adeilad amlbwrpas y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Y prif adnodd yw'r awditoriwm mawr sy'n dal dros 2000 o bobl. Yn ogystal â hynny ceir bar a chyntedd yn rhan flaen yr adeilad ac ystafell werdd ac ardal cefn llwyfan proffesiynol yn y cafn. Mae gan y Pafiliwn hefyd fantais o fod â maes parcio mawr o'i gwmpas ac mae lle i tua 300 o geir a 20 o fysus.

SLACYR - CLWB CHWARAEON, PORTHMADOG

www.slacyr.co.uk

Mae Recordiau Slacyr wedi cychwyn noson fisol ym Mhorthmadog, o'r enw Clwb Slacyr. Bwriad y noson ydi rhoi cerddoriaeth o safon ymlaen yn yr ardal lle ganwyd y label.

STAFELL FYW

www.myspace.com/stafellfyw

Gigiau misol yng Nghaerdydd gan criw ffansin Siarc Mawr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

TAFARN Y FIC, LLITHFAEN

www.tafarnyfic.com / swyddfa@tafarnyfic.com

Mae Tafarn y Fic yn dafarn Gymunedol Gymraeg a ffurfiwyd ym 1988. Mae wedi ei lleoli yn Llithfaen ger Pwllheli yng Ngogledd Cymru ac mae'n darparu amrywiaeth eang o adloniant Cymraeg yn rheolaidd.

TAFOD - GWESTY NOS DA, CAERDYDD

www.nosda.co.uk / tafod@nosda.co.uk

Mae 'Tafod - lolfa sain danddaearol' lawr grisiau yng ngwesty Nos Da, Caerdydd Mae'n lleoliad poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth sydd ar gael i'w logi. Mae bandiau Cymraeg yn lansio albyms yma, mae yna sesiynau mhic agored, bandiau byw, DJs preswyl, ac ymweliadau achlysurol gan DJs gorau Radio 1! Yn ddibynnol ar y noson, mae yna rywbeth i bawb. Mae Tafod yn dal hyd at 150 o bobl.

TŶ NEWYDD SARN - SARN MELLTEYRN, PWLLHELI, GWYNEDD

myspace.com/tynewyddsarn/ hefinj@hotmail.com / 01758 730747

Gigs rheolaidd acwstig a roc Cymraeg. Cysylltwch am fanylion.

TŶ SIAMAS

www.tysiamas.com / idris@tysiamas.com / 01341 421800

Ty Siamas yw'r ganolfan genedlaethol i gerddoraieth draddodiadol yn Nolgellau. Agorwyd drysau'r ganolfan ym Mehefin 2007 ac ers agor mae'r Ganolfan wedi llwyfannu bandiau a cherddorion o'r safon uchaf o ar draws y byd. Er yn ganolfan i gerddoriaeth draddodiadol, mae Tŷ Siamas yn llwyfannu cerddoriaeth o bob math o gerddoriaeth, boed yn werin, roc, jas ayb ond fod yno gysylltiad â'r gerddoriaeth draddodiadol a gwerin Cymru.

LABELI RECORDIAU

AM

www.myspace.com/gofodam

Label achlysurol yw AM sy'n rhyddhau recordiau feinyl 7"(trwm) gan fandiau/cerddorion Cymraeg newydd. Yn achlysurol.

ANKST  MUSIK

www.ankst.co.uk   / www.ankst.net (siop ar-lein)

"Sdim lot o bwynt eistedd ar y ffens...."

Label recordiau a chwmni cynhyrchu ffilmiau Cymraeg. Ers dros ugain mlynedd yn gartref i dalentau mwya' disglair y sin roc yng Nghymru, yn ei plith Datblygu, Super Furries, Gorky's Zygotic Mynci, Cyrff, Ectogram , Melys, Topper, Tystion, M C Mabon, Zabrinski, Jarman, Stilletoes a llawer llawer mwy......

Awen

www.recordiauawen.com

Wedi ei leoli ym mhentref Pentraeth ar Ynys Môn. Mewn cydweithrediad gyda'r partneriaid, Stiwdio a Chyhoeddiadau Pandy maent wedi bod yn creu, recordio, cyhoeddi a rhyddhau cerddoriaeth ers 1996. Er eu bod yn canolbwyntio ar artistiaid Cymraeg, mae Awen yn derbyn artistiaid o bob iaith a diwylliant.

BOS

gwyn@sianjames.co.uk

Wedi'i leoli yn Llanerfyl, Powys mae Recordiau Bos yn label gymharol ifanc oedd yng ngofal casgliad aml-gyfrannog Cymuned - 'Y Gwir yn Erbyn y Byd', ac yn gartref i'r gantores Sian James

CIWDOD

www.communitymusicwales.org.uk / www.myspace.com/ciwdod / gethin.evans@communitymusicwales.org.uk / 01286 685248

Mae Ciwdod yn gweithio law yn llaw â Complete Control Music, label recordio ac adran deithiau Cerdd Gymunedol Cymru ac yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Gymraeg. Mae'n gwmni nid-er-elw gyda'r bwriad o helpu artistiaid newydd: i drefnu amser yn y stiwdio, perfformio'n fyw ar deithiau, rhyddhau cerddoriaeth drwy'r label, cael hyfforddiant a chyngor ym maes cerddoriaeth, hyrwyddo gigs, a hyrwyddo cerddoriaeth i'r diwydiant masnachol.

COPA

myspace.com/labelcopa / www.labelcopa.net / copa@sainwales.com / 01286 831111

Cerddoriaeth amgen yw ffocws Copa, boed hynny'n gerddoriaeth 'lo-fi' wedi'i gynhyrchu gan ddyn gwyllt a barfog mewn bwthyn ar lethrau Eryri neu 'gypsy beats hip hop funk' gan dderwyddon coll Iolo Morgannwg. Mae'r label wedi bod yn gweithio gyda'r artistiaid canlynol ers ei sefydlu; Mr Huw, Sibrydion, MC Mabon a Derwyddon Dr Gonzo.

DOCKRAD

www.dockrad.com / post@dockrad.com

Mae Recordiau Dockrad wedi bodoli ers 2001, yn rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig o safon gan fandiau fel Ashokan, Diffiniad, Howl Griff, Ty Gwydr, MC Saizmundo, Skep, Gilespi, The Afternoons, Volenté ac eraill. Gallwch brynu a lawrlytho traciau o'r wefan.

GWYMON

www.gwymon.net / myspace.com/gwymongwymon@sainwales.com / 01286 831111

Label sy'n canolbwyntio ar gantorion / cyfansoddwyr gyda blas gwerin, acwstig, jazz ac amryw o synau eraill. O fersiynau cyfoes o hen alawon traddodiadol Cymraeg i ddylanwad atmosfferig tirlun Sir Fôn wedi'i chyfuno gydag obsesiwn am jazz, ysbrydoli'r enaid yw bwriad y label hon. Ers ei sefydlu mae'r label wedi rhyddhau cynnyrch gan Lleuwen, The Gentle Good a 9bach.

GWYNFRYN CYMUNEDOL

www.gwynfryncymunedol.co.uk / gwynfryncymunedol@hotmail.com / 01286 650 523

Cwmni cymunedol, nid-er-elw, sefydlwyd yn 2000, sy'n weithgar yn y gymuned yw Gwynfryn. Bwriad y cwmni yw rhoi'r cyfle i gerddorion o'r ardal berfformio gyda'r gobaith o ddatblygu eu talent yn lleol ac yn genedlaethol.

RECORDIAU SAFON UCHEL

www.highqualityrecordings.co.uk

Label sy'n rhyddhau deunydd electroneg fel Blodyn Tatws a Les Idiots. Ar y wefan mae 'na newyddion a chyfle i glywed rhai o'r traciau.

KISSAN

www.kissanproductions.com / info@kissanproductions.com

Mae cynyrchiadau Kissan yn cynnig gwasanaeth recordio a label recordio sy'n cynnwys rhai o artistiaid gorau Cymru fel Catrin Finch, Ryland Teifi, Fflur Dafydd, CF47 a mwy. Maent gyda chytundeb dosbarthu yng Nghymru a led led Prydain gyda chwmni New Note / Pinnacle, maent erbyn hyn yn trefnu cyngherddau a pherfformiadau byw yng Nghymru a Llundain. Mae gan Kissan hefyd stiwdio recordio newydd - gwelwch y wefan am ragor o fanylion.

LABEL ABEL

www.labelabel.co.uk

Mae LaBel aBel wedi rhyddhau 3 cd gan Bryn Fôn a`r band, gyda crynoddisgiau newydd gan Y Tebot Piws ac "Y Docfeisdr" - prosiect hir-ddisgwyliedig MC`s Mabon a Saizmundo allan cyn bo hir hefyd.

MENAI

www.stiwdioeglwys.co.uk / george@stiwdioeglwys.fsnet.co.uk / 01248 671663

Lansiwyd Recordiau Menai ar ddechrau 2004, yn bennaf i ddelio gyda'r nifer cynyddol o artistiaid a oedd wedi recordio yn stiwdio sylfaenydd y label.

PESKI

www.peski.co.uk / www.myspace.com/peskirecords / info@peski.co.uk

Ffurfiwyd y label yn 2003 i ryddhau albwm cyntaf Jakokoyak 'Am cyfan dy pethau prydferth', sydd wedi denu llawer o glod. Mae'r label wedi parhau i ryddhau cerddoriaeth amgen ac eclectig gan fandiau megis Radio Luxembourg, Cate Le Bon, Evils, David Mysterious a Texas Radio Band

PLACID CASUAL

www.placidcasual.com

Rhyddhau recordiau - yn achlysurol ac yn hollol fympwyol - yw unig amcan Placid Casual. caneuon a cherddoriaeth a fyddai, efallai, yn cael eu hanwybyddu. meddai Super Furry Animals: "Mae'r recordiau yma'n llawn o'n ffrindiau ni, ynghyd â rhai gan bobl y cwrddon ni ar hyd y ffordd (ac a ddaeth yn ffrindiau)".

RASAL

www.rasal.net / myspace.com/rasal1 / guto@rasal.net / 01286831111

Artistiaid poblogaidd a chyfoes Cymraeg sy'n dwyn bryd label Rasal. Mae hyn yn gallu amrywio o ganeuon gwirion am goffi i rai melodig a funky gan un o lenorion aml-dalentog mwyaf gweithgar Cymru. Yn ddiweddar rhyddhawyd cynnyrch gan Gwibdaith Hen Fran, Fflur Dafydd a'r Barf ac Al Lewis.

RASP

www.fflach.co.uk / info@fflach.co.uk / 01239 614691

Dechreuwyd label Rasp yn y flwyddyn 2000 gan gwmni recordio Fflach o Aberteifi i hyrwyddo cerddoriaeth pop, roc a dawns. Mae Rasp yn bwriadu rhyddhau mwy o CDs yn y dyfodol, yn enwedig EPs gan grwpiau ac artistiaid newydd.

RECORDIAU ANHREFN

www.myspace.com/anhrefn

Label recordiau sydd wedi ymddangos eto ar ôl amser hir i ffwrdd, ac yn cael ei rhedeg gan Rhys Mwyn.

RECORDIAU ARAN

post@traciaucymraeg.com / 01286 831246

Cwmni recordio sy'n weithredol yn mhob genre cerddorol gyda'r pwyslais ar gynhyrchu deunydd safonol. Fedrwch lawr lwytho deunydd Recordiau Aran o'r gwefan www.traciaucymraeg.com sydd hefyd yn cynnwys manylion o'r gwasanaethau pellach sydd ar gael.

RECORDIAU KIMBERLEY

www.kimberleyrecords.co.uk

Label sydd gyda thraciau gan ystod eang o artistiaid yn cynnwys Cate le Bon a Texas Radio Band i'w lawrlwytho am ddim ac i'w prynu.

RECORDIAU SAFON UCHEL

www.highqualityrecordings.co.uk

Label sy'n rhyddhau deunydd electroneg fel Blodyn Tatws a Les Idiots. Ar y wefan mae 'na newyddion a chyfle i glywed rhai o'r traciau.

SAIN

www.sainwales.com / sain@sainwales.com / 01286 831 111

Mae gan Sain, a sefydlwyd yn 1969, y catalog mwyaf o gerddoriaeth Gymraeg yn y byd - dros 15,000 o draciau ac mae'n rhyddhau amrywiaeth eang o gerddoriaeth sy'n cynnwys roc, gwerin, corawl, clasurol, traddodiadol a phop.

SKIPPING BEATS

www.skippingbeats.com / info@skippingbeats.com

Label hip hop ag electronig sydd wedi lleoli yng Nghaerdydd a Llundain. Ffurfiwyd y label yn 2005 sy'n cynnwys artistiaid fel Y Diwygiad, Mr Ronz, Redfalls, Mr Phormula ac Domer.

SLACYR

www.slacyr.co.uk / myspace.com/slacyr / info@slacyr.co.uk

Label o ogledd Cymru sydd 'yn rhyddhau rhywfaint o recordiau weithiau'. Artistiaid sydd wedi rhyddhau ar y label yn cynnwys Texas Radio Band, Gwyneth Glyn, Genod Droog a Yucatan. Mae artistiaid eraill wedi rhyddhau deunydd ar y label hefyd, Pep Le Pew, Gintis a MC Saizmundo.

CYLCHGRONNAU & FFANSINS

BRECHDAN TYWOD

info@brechdantywod.org

Ffansîn a sefydlwyd yn 1996 er mwyn adlewyrchu cerddoriaeth danddaearol yn bennaf.

FFWDANU

myspace.com/ffwdanu / ffwdanu@yahoo.co.uk

Mae Ffwdanu yn ffansîn cerddorol tanddaearol achlysurol. Mae'n trio adlewyrchu'r Sîn Gerddorol yng Nghymru mewn ffordd deg a gwahanol, drwy gyflwyno erthyglau a holiaduron a ffurfiau o bob math o wybodaeth am gerddorion amlwg a thanddaearol Cymru a thu hwnt. Mae'n cael ei ddosbarthu am ddim drwy'r post ar gais unrhyw un sydd â diddordeb.

SIARC MARW

siarcmarw@yahoo.co.uk / www.myspace.com/siarcmarw

Ffansîn tanddaearol sy'n trafod pob agwedd ar ddiwylliant cyfoes Cymraeg. Caiff ei gyhoeddi bob tri mis yn annibynnol o'r sefydliadau.

VIVA SPARKY

vivasparky@aol.com

Ffansin achlysurol sy'n dod â'r gorau o'r sin Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eriall atoch. Ar gael yn Recordiau Cob, Bangor, neu e-bostiwch vivasparky@aol.com am gopi rhad ac am ddim.

Y SELAR

www.yselar.com / golygydd@yselar.com

Cylchgrawn a gyhoeddir bob dau fis ac sy'n llawn cyfweliadau, newyddion ac adolygiadau am bopeth sy'n digwydd ym myd cerddoriaeth Gymraeg. Mae 'Y Selar' yn gylchgrawn A4 mewn lliw llawn ac yn cael ei ddosbarthu i ysgolion, colegau, Mentrau Iaith, siopau lleol a hefyd i danysgrifwyr unigol drwy'r post.

CYFRYNGAU

BANDIT

www.bandit247.com / bandit@boomerang.co.uk / 029 20550550

Ers 1998, Bandit yw'r brif raglen deledu ar S4C sy'n adlewyrchu'r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, gyda pherfformiadau byw, fideos, cyfweliadau a gwesteion bob wythnos. Caiff ei chyflwyno gan Huw Stephens a Huw Evans.

C2 (RADIO CYMRU) 92 - 105FM

08703 500 500 oriau darlledu yn unig / 07786 201030 testun / c2@bbc.co.uk Llun-Gwener 8pm-1am

Cerddoriaeth, cerddoriaeth a mwy o gerddoriaeth, dyna gewch chi ar C2 bob nos, gan ein cyflwynwyr amrywiol, Magi Dodd, Huw Stephens, Dafydd Du, Lisa Gwilym, a Glyn Wise.   Yn ogystal â chwarae'r gerddoriaeth ddiweddara o siart y senglau a siart C2, cerddoriaeth newydd ac arbenigol ac wrth gwrs ambell i glasur, mae C2 yn rhoi cyfle i fandiau recordio caneuon newydd yn arbennig ar gyfer y rhaglen.

CYTGORD

emyrpierce@hotmail.com / 01248 602 267

Gwasanaeth siartiau, ymchwil a newyddion am y sin gerddoriaeth Gymraeg sy'n darparu pecyn Newyddion, Calendr gigs, a Siartiau 10 uchaf Cytgord ac C2 yn wythnosol i BBC Radio Cymru, S4C, Y Cymro, Golwg ac eraill.

GWYBODAETH YCHWANEGOL

BRWYDR Y BANDIAU C2

c2@bbc.co.uk

Ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru, mae C2 bob blwyddyn yn cynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Y wobr i'r band gorau fydd recordio sesiwn i C2, ymddangos ar raglenni Bandit ac Uned 5 a S4C, perfformio ar Daith Bandit / C2, perfformio mewn gigs Menter Iaith Cymru, a chyfle hefyd i rannu llwyfan gyda rhai o brif fandiau Cymru ym Maes B Eisteddfod  Caerdydd 2008. Am fwy o fanylion ewch i safle gwe C2 neu cysylltwch â'ch Menter Iaith leol.

GWALLGOFIAID

www.gwallgofiaid.com

Wedi ei leoli yn Cell ym Mlaenau Ffestiniog, cwmni sy'n cynnal a rhedeg gweithdai roc a DJs i bobl ifanc yng ngogledd Cymru a Cheredigion.

GWEITHDAI C2

www.bbc.co.uk/c2

Mae criw C2 yn cynnal gweithdai 'DJ' mewn ysgolion uwchradd ar hyd a lled y wlad, lle mae disgyblion yn cael y cyfle i ddysgu mwy am sut i wneud rhaglen radio, a chael cyfle i ddewis y gerddoriaeth. Maen nhw hefyd yn cael blas ar gyflwyno, cynhyrchu ac ymchwilio ar gyfer eu rhaglenni eu hunain.

GWEITHDAI ROC

Mae sawl corff yn trefnu amrywiaeth o weithdai roc trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gweithdai yn cynnwys sesiynau hanner, tri diwrnod neu wythnos gyfan er mwyn rhoi profiadau blasu a hyfforddiant arbenigol i bobl o bob cefndir feithrin sgiliau offerynnol, creu cerddoriaeth gyfrifiadurol, troelli disgiau, neu gyfansoddi caneuon. Mae'r prif ddarparwyr yn y maes yn cynnwys Ciwdod (Cerdd Gymunedol Cymru) a'r rhwydwaith o Fentrau Iaith. Am fanylion pellach, cysylltwch â Ciwdod neu eich Menter Iaith leol.

MENTRAU IAITH

www.mentrau-iaith.com

Cyrff cymunedol yw'r Mentrau Iaith sy'n hybu'r defnydd o'r Gymraeg drwy ddarparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl o bob oedran i ddefnyddio'r iaith. Maent yn rhoi llawer o sylw i weithio gyda phobl ifanc ac i'r maes cerddoriaeth drwy drefnu gigs a gweithdai roc neu drwy hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg a drefnir gan eraill. Mae'r Mentrau hefyd yn gyfrifol am e-chlysur - gwasanaeth e-bost a negeseuon testun - sy'n hysbysu unigolion am ddigwyddiadau Cymraeg sydd o ddiddordeb iddyn nhw o fewn eu hardaloedd.

MUDIADAU IEUENCTID ERAILL

Mae sawl mudiad arall yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gyda sylw hefyd i gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid eich cyngor sir leol, Mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc a Gwobr Dug Caeredin.

RHYS MWYN

www.rhysmwyn.com / rhys@rhysmwyn.com / 01286 685 215

Mae Rhys Mwyn yn weithredol ar sawl lefel - rheolaeth (lle cymerir cyfrifoldeb am bob agwedd o yrfa'r artist), asiantaeth bwcio (darparu artistiaid Cymraeg a Chymreig ar gyfer gigs), PR a rheolwr Recordiau Anhrefn - Ewch i'r wefan am wybodaeth bellach.

SIOPAU LLYFRAU CYMRAEG

Mae CDs Cymraeg yn cael eu gwerthu mewn siopau llyfrau Cymraeg ar draws Cymru. Cewch weld rhestr o'r siopau sy'n cynnig gwasanaeth trwy'r post ar www.gwales.com

TAITH BANDIT/C2

Llynedd mi aeth criw C2 a Bandit ar daith o amgylch Cymru, gan ymweld â 20 ysgol mewn cyfnod o fis. Yn ystod y bore mi oedd y disgyblion yn cael cymryd rhan mewn gweithdy radio neu deledu, ac yn y pnawn mynd i'r neuadd i weld sioe oedd yn cynnwys perfformiad gan brif fand y daith. Mi fydd Taith Bandit / C2 yn digwydd eto yn ystod Hydref 2008.

URDD GOBAITH CYMRU

www.urdd.org

Mudiad ieuenctid mwyaf Cymru sy'n trefnu ystod eang o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i'w aelodau, gan gynnwys chwaraeon, teithiau a gwaith dyngarol. Mae'n gyfrifol hefyd am drefnu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gwyl ddiwylliannol ieuenctid fwyaf Ewrop. Am fanylion pellach am weithgareddau i bobl 15-25 oed, ewch i'r wefan.

SEFYDLIAD CERDDORIAETH GYMREIG

www.sefydliadcerddoriaethgymreig.com / ymholiadau@welshmusicfoundation.com / 029 20494110

Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) yn asiantaeth datblygu i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae'n darparu cefnogaeth busnes, cymorth gyda masnach ryngwladol, gwybodaeth, cysylltiadau a seminarau addysgol i gwmnïau cerddoriaeth gan gynnwys pawb o labeli recordiau i reolwyr, lleoliadau a hyrwyddwyr.