Welcome to Dan Y Cownter 3

contemporary Welsh language tracks compiled by Dan Y Cownter 3

English | Cymraeg

enw:

oedran:

ardal lle'r ydych yn byw:

Cyfeiriad e-bost dilys:

Ble glywsoch chi am Dan y Cownter?:

arall:

adborth:

Cliciwch i ymuno â rhestr ebost 'Friends Of Foundation' SCG:

Cliciwch i ymuno â rhestr e-bost Cymraeg SCG:

*required field

*required field

*required field

*required field

*required field

Telerau ac Amodau

Cyffredinol

Gellir gweld telerau ac amodau cyflawn y safle [yma], ceir fersiwn gryno ar y dudalen gyfredol. Rhaid ichi gytuno â'r telerau ac amodau hyn i ddefnyddio'r safle hwn ac islwytho'r albwm 'Dan Y Cownter 3'. Darperir y safle gan Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rydym yn ceisio sicrhau ei fod yn gywir, wedi ei ddiweddaru ac yn rhydd rhag meddalwedd maleisus, ond ni allwn warantu hynny, ac nid ydym yn gyfrifol am wefannau yr ydym yn cysylltu â hwy. Rydym yn casglu rhywfaint o ddata amdanoch yn awtomatig wrth ichi bori ac yn gofyn am fwy cyn ichi islwytho'r albwm. Nid ydym yn rhannu eich manylion ag unrhyw un ac ni fyddwn yn eu defnyddio dim ond i gysylltu â chi (os ydych chi'n cytuno) ac i gasglu ystadegau am y prosiect hwn. Mae cynnwys y safle hwn (ffotograffau, graffeg, testun etc.) yn eiddo i ni neu wedi ei drwyddedu'n gyfreithlon gan y perchennog. Cysylltwch â ni os hoffech ailgynhyrchu rhannau ohono.

Islwythiadau o Gerddoriaeth

Nid ydych yn talu i islwytho Dan Y Cownter 3 ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn rhad ac am ddim! Cafodd cyfansoddwyr y caneuon eu talu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, gyda chyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn defnyddio eu traciau ac NID OES GENNYCH 'ryddid' i wneud fel y mynnoch â'r gerddoriaeth. Gallwch: Ei rhoi ar eich cyfrifiadur, chwaraewr mp3, ffôn etc. Llosgi CD ac argraffu'r gwaith celf i'w gadw. Ei chwarae i'ch cyfeillion a'u cyfeirio hwy at wefan Dan Y Cownter er mwyn iddynt gael eu copi eu hunain. Gwrandewch am byth! Peidiwch: Wneud copïau ohoni i rywun arall, ei rhannu drwy P2P, ei rhoi ar youtube, ei phostio i'ch blog, i'ch myspace neu i unrhyw le arall ar y we. Bydd rhai o'r artistiaid yn fodlon ichi wneud hyn ond cysylltwch â hwy yn gyntaf a gofynnwch am eu caniatâd.