Yn dilyn poblogrwydd aruthrol Dan Y Cownter a Dan y Cownter 2 - dau gryno ddisg o'r gerddoriaeth ddiweddaraf a gorau o Gymru a ryddhawyd eisoes ac a ddosbarthwyd am ddim i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn falch o gyflwyno'r wefan newydd sbon yma - y drydedd yn y gyfres, sef Dan y Cownter 3.
Mae'r wefan yma'n cynnig 10 trac Cymraeg y gellir eu lawrlwytho'n ddi-dâl, ac mae yna hefyd lawer o wybodaeth am fusnesau a sefydliadau sy'n gweithio o fewn y 'sin' cerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys labeli recordio, gwyliau cerddorol, gigs rheolaidd, safleoedd gwe a ffansins.
Dyma gyflwyniad gan Huw Stephens, y DJ o C2 ar Radio Cymru a Radio 1 wnaeth helpu i lunio rhestr fer o'r traciau:
"Croeso i Dan y Cownter 3. Y bwriad yw lledaenu'r gair am gerddoriaeth newydd yn Gymraeg. Mae 'na lot ohono fe wrth gwrs. Ar y safle we yma mae yna hefyd fanylion ar le mae'r gigs yn digwydd, lle mae rhaglenni radio, teledu a safleoedd gwe a chylchgronau ar gael. Ond am nawr, mae deg cân wahanol, wych a sgleiniog ar gael i chi lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Ugain mlynedd yn ôl, fydden nhw ddim wedi eich credu chi. 'Deg cân wedi eu lawr lwytho oddi ar y we am ddim?' Doedd y fath beth ddim yn bosib, ac mae Dan y Cownter 3 yn falch o allu dod â thiwns newydd i'ch peiriant cerddoriaeth. Dwedwch wrth eich ffrindiau, darganfyddwch fwy am y bands; mae byd o gerddoriaeth newydd wych yn aros amdanoch chi."
Bu grwpiau ieuenctid ledled Cymru yn helpu i ddewis pa draciau i'w cynnwys ar y safle, a rydym yn ddiolchgar iawn i Aelwyd Treforys a Menter Abertawe, Y Gwallgofiaid ym Mlaenau Ffestiniog, Criw Bocswn, Amlwch a Chynllun Gwaith Ieuenctid Merthyr Tudful am eu cymorth, yn ogystal â Mr Huw Stephens am ei amser a'i chwaeth gerddorol.